R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros triniaeth canser yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)0288(HSS)
2. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefel y presgripsiynau ar gyfer gwrthfiotigau yng Nghymru? OAQ(4)0294(HSS)
3. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gwella’r broses o gyflenwi gwasanaethau’r GIG yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0303(HSS)
4. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei ystyriaethau o ran cydlynu iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn effeithiol yn deillio o gyllideb a rennir? OAQ(4)0300(HSS)
5. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus i annog pobl i fanteisio ar frechiadau? OAQ(4)0296(HSS)
6. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith yr ORS yn yr ymgynghoriadau ar ailgyflunio’r Gwasanaeth Iechyd? OAQ(4)0286(HSS)W
7. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)0295(HSS)
8. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pwy fydd yn gallu gwneud cyflwyniadau i’r adolygiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar o gymeradwyo cyffuriau amddifad ac amddifad iawn? OAQ(4)0289(HSS)
9. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi manylion am sut y bydd y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn cyd-fynd ag integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol? OAQ(4)0301(HSS)
10. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys yn Nwyrain De Cymru? OAQ(4)0287(HSS)
11. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gofal iechyd meddwl i gleifion oedrannus? OAQ(4)0298(HSS)
12. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â’r prinder deintyddion? OAQ(4)0297(HSS)
13. Ieuan Wyn Jones (Ynys Môn): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi ei wneud o werth cynlluniau peilot sy’n integreiddio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? OAQ(4)0299(HSS)W
14. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi ei rhoi i gael uned mân anafiadau, adran damweiniau ac achosion brys a meddygfa meddyg teulu y tu allan i oriau i gyd ar yr un safle er mwyn i gleifion gael eu cyfeirio at y clinigydd perthnasol? OAQ(4)0291(HSS)
15. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl ei wneud o ran integreiddio gwasanaethau cymdeithasol â gwasanaethau partneriaeth eraill yn nhymor y Cynulliad hwn? OAQ(4)0293(HSS)
Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi eu cymryd i sicrhau bod yna lyfr statud ar-lein? OAQ(4)0047(CG)W
2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o gyfarfodydd y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi eu cael gyda’r farnwriaeth ac aelodau o’r proffesiwn cyfreithiol yn ystod y chwe mis diwethaf? OAQ(4)0048(CG)W
3. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sylwadau y mae wedi eu gwneud ar faterion sy’n effeithio ar Gymru? OAQ(4)0046(CG)W
Gofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
1. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhaglen newydd yn lle’r ‘Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol’? OAQ(4)0050(CTP)
2. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu safleoedd sipsiwn a theithwyr yng Nghasnewydd? OAQ(4)0040(CTP)
3. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Sut y mae Dechrau’n Deg yn cynorthwyo teuluoedd yn Nyffryn Clwyd? OAQ(4)0044(CTP) Tynnwyd yn ôl
4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Cymunedau yn Gyntaf yn cyflawni atebion cymunedol i broblemau cymunedol? OAQ(4)0054(CTP)
5. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei
waith gyda’r Trydydd Sector yng Nghymru?
OAQ(4)0049(CTP)
6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen flaenllaw Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0043(CTP)
7. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Bil Datblygu Cynaliadwy
arfaethedig? OAQ(4)0053(CTP)W
8. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sefydlu ardaloedd Cymunedau yn
Gyntaf newydd ar draws Gogledd Cymru?
OAQ(4)0052(CTP)W
9. Gwyn
Price (Islwyn): A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd yn nifer y bobl
sy’n defnyddio banciau bwyd? OAQ(4)0046(CTP)
10. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
A
wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad
Llywodraeth Cymru o wasanaethau cynghori? OAQ(4)0045(CTP)
Tynnwyd yn ôl
11. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cyflogau digyfnewid ledled y DU ar lefelau tlodi yng Nghymru? OAQ(4)0047(CTP)
12. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei gyfrifoldebau o ran Confensiwn
y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru?
OAQ(4)0051(CTP)W
13. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganlyniad ei uwchgynhadledd gydag Undebau Credyd? OAQ(4)0041(CTP)
14. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyrraedd safonau cydraddoldeb ynglŷn â chyfansoddiad Byrddau Sector Cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)0039(CTP)
15. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi ei wneud o’r manteision y gall tafarndai eu cynnig yn y gymuned? OAQ(4)0055(CTP) Trosglwyddwyd i'w ateb yn Ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd